Cefndir

Dros 500 mlynedd yn ôl bu Llanwst a chaer goedwig Gwydyr yn Nyffryn Conwy yn gartref i wrthryfelwr, uchelwr, a bardd y mae ei gampau, boed yn wir neu beidio, wedi ennill iddo’r teitl o Robin Hood Cymru: Dafydd ap Siencyn. Dilynwch yn ôl troed y gwrthryfelwr lliwgar hwn, mewn gŵyl sy’n dathlu pobl, natur, diwylliant a hanes Llanrwst yn Nyffryn Conwy, Gogledd Cymru.

Wedi’i lleoli ym Mharc Gwydyr, yn nhref farchnad hanesyddol Llanrwst, bydd yr ŵyl deuluol hon yn mynd â chi ar daith yn ôl mewn amser i ddarganfod straeon a chwedlau canoloesol Cymreig. Ymunwch yn yr amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau cyffroes. Mae rhywbeth ar gyfer bob oedran a chwaeth, yn cynnwys: Cerddoriaeth byw, perfformwyr, celf a chrefft, straeon, gwisgoedd, saethyddiaeth, sgiliau coedwig, stondinau marchnad, a llawer mwy. Mae'r holl weithgareddau a mynediad am ddim!

Yn ddiwrnod llawn hwyl i'r teulu cyfan, mae Gŵyl Dafydd ap Siencyn yn addo antur bythgofiadwy.

Gwrandewch ar hanesion o antur a cherddoriaeth werin draddodiadol y chwedlau.

Gwyliwch ail-greu brwydro cyffrous ac ymarferwch saethyddiaeth.

Gwrandewch ar hanesion Dafydd ap Siencyn yn cael eu hadrodd yn y Cylch Cerrig.

Mwynhewch archwilio amrywiaeth o stondinau yn y farchnad grefftwyr.