Datganiad Hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cerdded Conwy Walks.
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan grŵp o arweinwyr teithiau cerdded gwirfoddol, nid-er-elw. Rydym yn awyddus i gymaint â phosibl o bobl ddefnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- Newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- Chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- Llywio y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
- Llywio y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- Gwrando ar y rhan fwyaf o wefannau gan ddefnyddio darllenwr sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?
Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Nid yw rhai dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenwr sgrin
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille gysylltu â ni.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn ymrwymedig i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llwyr â Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1 safon AA
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau, a ffurflenni sydd wedi’u cyhoeddi fel dogfennau Word.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi trefn ar ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn cyflawni’r safonau hygyrchedd.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn profi unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn cyflawni gofynion hygyrchedd, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Y weithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)..