Cwestiynau â ofynnir yn aml
Gobeithir y bydd y cwestiynau cyffredin hyn a ofynnir yn aml gan Ŵyl Dafydd ap Siencyn yn rhoi’r wybodaeth ychwanegol yr ydych yn chwilio amdani. Os, ar ôl darllen y rhain, mae gennych rai cwestiynau o hyd, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i helpu.
Mae pob un o ddigwyddiadau'r Ŵyl wedi'u hanelu at fod yn addas i deuluoedd, felly gall pawb gymryd rhan a chael llawer o hwyl.
Nid yw’r digwyddiadau isod yn addas ar gyfer unigolion o dan 18 oed:
- Sesiwn Cerddoriaeth Werin
- Gig Lo-Fi Jones
Mae Parc Gwydyr yn hygyrch i bobl ag anhawster symudedd. Mae'r glaswellt yn aml yn anwastad ac yn agored i'r elfennau.
Mae gan Barc Gwydyr doiledau mynediad parhaol i bobl anabl. Tâl o 50c.
Bydd toiledau symudol AM DDIM ar gael ym Mharc Gwydyr yn ystod yr Ŵyl hefyd.
Mae stondinau yn gwerthu bwyd a diod ar faes yr Ŵyl. Mae croeso i chi hefyd ddod â'ch picnic eich hun i faes yr Ŵyl.
Does wybod beth neith y tywydd, felly rydym yn awgrymu eich bod yn barod am haul neu law.
Gan eich bod am fod tu allan awgrymwn eich bod yn gwisgo eli haul.
Awgrymwn eich bod yn gwisgo esgidiau addas.
Na, does dim angen i chi archebu ymlaen llaw ar gyfer gweithgareddau.
Mae gweithgareddau'r Ŵyl i gyd AM DDIM!
Cost bwyd a diod fesul eitem.