Gwirfoddolwr
Mae Gŵyl Dafydd ap Siencyn yn fenter nid-er-elw gaiff ei threfnu gan y gymuned, er lles y gymuned , ac rydym yn dymuno ei ehangu yn y dyfodol. Rydym yn chwilio am ‘rebels caredig’ i wirfoddoli er mwyn cefnogi’r ŵyl.
Bydd gwirfoddolwyr sy’n barod i roi 2.5 awr neu fwy o’u hamser yn gallu mwynhau’r diwrnod a derbyn crys-T Dafydd ap Siencyn am ddim ynghyd â lluniaeth ar y diwrnod.
Cwblhewch y ffurflen sydd wedi'i chysylltu isod:
